Thing, The (1982)

Mae'r effects yn eitha da rwan hyd yn oed, ella bod o'n wir be ddudodd John Caprenter mai am fod nhw ddim yn CGI eu bod nhw'n gweithio. Ma pob dim yn animatronics ynddo sy'n dipyn o beth. Kurt Russell yn actio am chenj, a pawb yn marw ar y diwadd. Gret.
Un peth nath groesi fy meddwl oedd y cheest bursters ma eto, nath rywun ddeud ar ryw raglen y diwrnod o'r blaen ei fod i gyd yn deillio o ofn dynion o fod yn feichiog...rhaid deud nad ydi'r darnau yna'n dychryn fi, ma'n nhw'n gneud i fi chwerthin. Ydi hyn yn golygu mod i ddim yn ofn bod yn feichiog? *gulp*

Comments

Popular posts from this blog