Ffilmiau

Tales from the Crapper (2002) (V) Cyf: India Allen / Lloyd Kaufman

Fel mae'r teitl yn awgrymu - peil o gachu - ond peil o gachu doniol ar adegau. Ffilm o stabal Troma (wel pit seilej Troma) a'r ddiweddara yn repertoire Lloyd Kaufman, sydd wedi bod yn "creu ffilmiau anibynnol ers 30 mlynedd".

Roedd hwn yn rhan o Wyl Sgrin Caerdydd a bu Q & A efo'r dyn ei hun wedi'r ffilm. Mae'r boi yn hynod ddeallus ag yn cyfeirio atgyfarwyddwyr sinema anibynnol fel John Cassavetes ag ati fel tasan nhw'n ffrindia gora. Doniol ei fod yn genud y ffilmiau mwya ffiaidd a llawn brestia silicon ynde.

Roedd hi'n gret cwrdd a fo a fasa wedi bod yn neis cael llun ond nesh i agnhofio fy nghamera. C'est la vie ynde wassss.

Comments

Popular posts from this blog