Chillllll
Newydd gael penwythnos o neud dim byd. Dim yfed (llawar), dim symud (llawar), dim atab ffon o gwbwl, dim ffonio neb, jest ymlacio adra yn Nolgellau. Cael pleser mewn petha bach. Stiw cig oen slow cooked cartra, cacs bach di ri, Cymru'n codi dychryn mwya diawledig ar Aotearoa a chwarae'r gem yn brydferth, dim llawar o yfed am chenj, siarad efo teulu, gorffan llyfr, gwylio ffilm ne ddau (yn cynnwys Dymbo efo mrawd bach!), mynd i gysgu'n glud efo glaw yn curo fel mwrthwl gof ar y skylight, cysgu ar y soffa efo tan glo yn rhuo o mlaen i, darllan papurau newydd a cael cyfla i ddal fyny efo'r byd.

Jest y job. Aaaaaaah....

Gwaith fory, prysur iawn, pwy sy'n boddyrd? Dim fi, dim tan bora fory eniwe.

Comments

Popular posts from this blog