Coesa Disgo

South Wales Mountaineering Club

UK Climbing.com


Wedi ailgychwyn ar y dringo neithiwr, ffycin brilliant. Aeth fi a J fyny i Ganolfan Ddringo Ryngwladol Cymru yn Nhreharis. Ma'n un math o ymarfer corfff dwi'n ei fwynhau, mae'n blino chi ac yn sialens ond gallwqh chi neud o ar eich pace chi eich hun. Trio rhai annodd, neu jest fwynhau dringo un haws. Dwi'n mynd nol i orffan ail hannar y cwrs dechreuol nos Wenar wedyn gai neud o fy hun. Gobeithio wedyn gallai ymuno a'r cwb dringo lawr ma a mynd am benwythnosa a chael allan o Gaerdydd bob yn hyn a hyn. Ma meddwl am fynd fyny efo nhw i'r goledd a theimlo fatha twrist monbg yn gneud fi deimlo braidd yn anghysurus ond na ni, raid i rywun addysgu nhw does!

Comments

Popular posts from this blog