Ffilm: sdwfffff
Noson Ffilmiau Byr BAFTA

Fuesh i i'r noson yma heno...i siarad...yn gyhoeddus am gynlluniau ffilmiau byr...
Whoa, o'n i ddim yn disgwyl cymainbt o bobol yno ma'n raid i fi ddeud. Duwcs, noson infformal efo ambell i wneuthurwr ffilm newydd sy isio gwybodaeth.

Oedd na dros gant o bobol yna. Waaaaaaaaaaaaaaaaaaah!

Gynta gwylio'r ffilms, oedd na ddwy dda, oedd "Down" gan Anthony Smith yn wych yn arbennig gan feddwl fod yr actorion ifanc oll rioed wedi gneud hyn o'r blaen. Roedd y ffilm yn stylish yn broffesiynol ac yn ddarn genre ffantastig. A hynny oll ar ddim llawer o bres. Gwych gweld pobol yn gneud petha fel'na. Sinema go iawn.

Beth bynnagh, ddoth y ffilms mlaen, a'r siaradwr cynta. Fe gafodd o'i heclo gan ryw ddynas! Wel, os o'n i'n glyma i gyd cyn hynny o'n i'n ffwcd wedyn, yr ail siaradwr mlaen a siarad yn ddigon taclus ond hithau'n cael cwestiynau annodd. A dyna ni, mlaen a fi. O'n i'n ffein nes i fi gyrraedd y stand a'r meic a chlywed fy llais fy hun yn bloeddio drwy;r sinema (wel, dyna oedd o'n swnio fel i fi) a dyma goeas'n troi mewn i Rowntrees. Felly dyma'r disgo leg yn parhau a'r llais yn dechr a crynu, ond, lllwyddais i sorio'n hun allan a dechra joio fo erbyn y diwadd. Rwbath raid ti neud weithia tydi? Gwynebu'r petha ti ofn hed ffyrst. Felly, dwi'm yn meddwl nath neb sylwi gormod ar fy nerfusrwydd a gesh i'r neges drosodd yn iawn, a yn bwysicahc fyth neshi gwrdd a 5 gwneuthurwr ffilm newydd i roi cyngor iddyn nhw. Werth o yn y diwadd. Ond phew o'n i angan glasiad neu ddwy o win wedyn! Adios gringos.

Comments

Popular posts from this blog