Ffilmiau

Dreamers, The (2003) Cyf: Bernardo Bertolucci

Mae Bertolucci yn adnabyddus am ei ffilmiau pryfocllyd a dyw hwen ddim gwahanol. Mae'n dilyn perthynas hogyn Americanaidd a brawd a chwaer (llosgachaidd!) bourgois ym Mharis 68 tra roedd y streics a'r protestiadau yn mynd mlaen. Mae'n nhw'n trafod ffilm yn ddi-bendraw ac mae'n gret i buff efo llawer o rhyng-dorri rhnwg ffilmiau Truffaut a Godard ac ati. Mae'n mynd chydig yn decadent ar gyfer fy nhast i ddo efo'r triawd yn cloi eu hunain yn fflat rhieni cyfoethog y plant Ffrengig yn quaffio gwin drud a ffwcio eu gilydd tra bod y gwrthryfel yn digwydd yn y stryd tu allan. Mae nhw'n geg i gyd ond gneud dim byd...ella pwyntio rwbath allan i genhedlaeth newydd ma Bernardo'n trio gneud?

Comments

Popular posts from this blog