Funeral, The (1996)

Eitha da, dim byd gwych ddo.
Walken = r'un peth a'i type arferol, fel cerflun rhew, ond un efo amball sdic o TNT wedi pacio tu mewn.
Chris Penn yn hynod sceri fel arfar. Ma'r boi na'n gallu gwylltio!
Diddorol gweld Vincent Gallo mewn ffilm arall ar ol ei antics Brown Bunny, sydd, yn cael adolygiadau da rwan idd o fo gael ei dorri chydig. Dwi dal yn meddwl taw gweld hwnna mewn sinema yn Cannes oedd y profiad sinema i fi ei gael erioed. Hannar yn sinema'n bwio a cherdded allan a'r hannar arall yn calpio a twt twtio. A hyn oll efo'r cyfarwyddwr a'r Chloe Sevigny yn gwylio! Gwychder.

Comments

Popular posts from this blog