Blog Gwyl Sgrin Caerdydd- Noson Agoriadol

Danny Deckchair (2003)

Felly, mae cychwyn yr wyl wedi dod, a finna di gorfod mynd i dre yn y gwynt a'r glaw amsar cinio ddoe i brynu crys newydd ar gyfar dilieitio'r leidis ar y carpad coch!

I gychwyn be am y ffilm?
Wel, formulaic rom com oedd o a dim byd newydd, ond fel'na ma nhw fod siwr gen i. Oedd o'n reit ddoniol i gychwyn gyda Danny (Rhys Ifans) ond mi aeth y ffilm mor ara deg erbyn y drydedd act fel bod unrhyw adega doniol yn cael eu mygu gan y pace. Oedd y portread o Aussies yn eitha teg yn fy marn i er fod na neb yn rhegi unwaith(!) ag acen Rhys Ifans yn doj ar adega. Roedd yr actio'n dda efo Rhys Ifans yn well na Once Upon A Time In The Midlands a Mirando Otto yn gneud y gora o sgript go arferol.

Deu gwir oedd hi'n ffilm saff i agor yr wyl, ma na le i betha mwy challenging yn ystod yr wythnos. Mi fasa'n neis cael ffilm Gymraeg newydd, whahanol i agor yr wyl ond na fo sgennon ni ddim digon o ffilms wedi eu cynhyrchu yng Nghymru a bydd hyd yn oedd llai rwan fod y cynulliad wedi tynnu'r plwg ar yr arian fuasai wedi galluogi hynny. £3 miliwn pitw fel piso dryw yn y mor i budget y cynulliad ond na fo does gan Lafur ddim gweledigaeth ar gyfer y diwydiannau creadigol. Ma'n drueni mawr fod hyn wedi digwydd gan fod yr arian Ewropeaidd wedi ei gytuno a cham bach oedd raid gneud wedyn.

Wel, mi orffenodd y ffilm a bu clapio. Daeth rhyw idiot o Red Dragon FM mlaen a chyfweld (ahem!) Rhys Ifans a'r Cyfarwyddwr - Jeff Balsmeyer. Roedd o'n warth! Oedd o'n gofyn i'r ddau os oedd o'n "weird" gweld eu hunain ar y sgrin fawr, neud jocs cachlyd am Legionnaires disease (dair gwaith!) a llwyddo i roi y croeso gwaetha i'r cyfarwyddwr druan oedd wedi dod yr holl ffordd o Awstralia.

Ymlaen i'r parti...
Oedd hwn wedi ei gynnal yn llawr ucha swyddfa cyfreithwyr Eversheds yn Callahan Square (y lle rhwng y dre a'r bae lle ma'r kids i gyd yn mynd am skate). Lle digon od, ond hefo fiw gret, a LOT o booze am ddim. WOO HOO! Oedd na lot o ryw schmooze-io yn mynd mlaen yna ond o'n i'n ddigon hapus i sefyll yn coridor yn malu cachu mynd allan am ffag fel hogyn drwg. Gesh i sgwrs neis efo Julian Richards sydd efo ffilm mlaen nos fory, boi clen iawn sy'n dechra cael sylw fel cyfarwyddwr a sgwennwr (enillodd ffilm gorau o Brydain yng Ngwyl Ffilm Raindance). Edrych mlaen i weld ei ffilm The Last Horror Movie nos Sul.

Mynd wedyn i'r Twcan efo dau Gynhyrchydd ifanc a hogan lysh o Gaerdydd a chael cibab yhn Caroline Street ar y ffor nol. Ych.

Comments

Popular posts from this blog