Sesiwn Fawr FAWR arall yn y glaw!

Dyna ni, Sesiwn Fawr Dolgellauarall ar ben a gyd sgen i ydy llond rol o luniau(pwy awyr be ydyn nhw!), ambell i atgof a phen fel rwdan bydredig. Roedd o chydig yn ddistawach nag arfer gyda llawer bradwr wedi gleuo hi at y Saeson yn Wakestock yn Aber-sock. Eichcollad chi oedd hi, nath Anweledig lwyddo i godi pawb i fan heulog yn y glaw gyda'r band yn hynod sobor am chenj (o'n i'n clywad fod Ceri dan ordors gan y band i ymwrthodi a dangosodd hynny yn eu set, er fod dryms Al yn disgyn i ddaran!). Go dda hogia! Ffacin gret!

Oedd hi'n bleser gweld Geraint Jarman am y tro cynta fyd, mae ganddo fo gymaint o glasuron a fynta'n dal i gadw ei cool efo shades punt nawdegnaw! A choron ar eu set oedd Tich Gwilym yn gneud Hen Wald Fy Nhadau - Hendrix-style.

Mi droth hi'n barti wedyn yn Y Bryn a llymeitian efo criw o straglars tan y bore man yn cynnwys cyd-flogiwr arall - Corach y canolbarth.

Oedd Dydd Sul yn draffath ond lwyddis i fynd lawr i weld One Style nath roi gwen ar wep pawb gyda'u canabis cerddorol. Sdim byd fel bach o dyb i gyd fynd a'r Guinness yn y glaw. Yna agorodd y nen a phisodd lawr fel dilyw beiblaidd. Ond, dal ati nathon ni efo'n ambarels, y ffyddloniaid yn dawnsio tan y diwadd. Felly, glaw eto ond llwyddiant dwi'n meddwl, edrach mlaen at gwrdd pawb eto flwyddyn nesa a gwaredu mynd i gwaith yfory.

Comments

Popular posts from this blog