Sbaen III

Wel dwi nol ag yn saff ar ol rhedag...wel, ista ar yr ochr yn edrach ar bobol erill yn rhedeg efo'r teirw gwyllt. Dyma luniau o'r encierro welis i.Oedd o bach yn ail i'r parti drwy'r nos gafon ni yno a deud y gwir. Llwyth o Calimocho (gwin coch a Coke) a Cuba Libres (Rym a Coke) a dawnsio i ffync a bandiau pres sporadic (dawnsio efo band ETA mewn camgymeriad ar un adeg moment MOMG y fiesta) efo pawb di gwisgo mewn gwyn hefo 'neckerchief' goch.

Gafodd pawb ffwc o ffrae am 10yb tra'n aros am y bws yn union fel mae nhw'n gneud yn llyfr Hemingway am y Fiesta (The Sun Also Rises) spooky - llyfr i godi gwrychyn rhywun braidd efo'r 'rich set yn yr ugeiniau. Genod yn crio, hogia'n pwdu, pawb yn hyngofyr a blin a blinedig. Ond roedd hi'n noson wirioneddol wych a rhaid cael y pwyntia isel er mwyn gwerthfawrogi'r rhai uchel. Roedd gan Hemingway un disgrifiad gwych o'r fiest - "A beautiful nightmare". Deud y cyfan.

Wedi deud hyn i gyd dwi mewn bach o benbleth am ethics yr holl beth. (Gweler bwnc trafod BBC)Ma'r teirw na'n cael eu tormentio a'u dychryn wedyn cael eu lladd yn araf. Dio fawr o hwyl i'r tarw nacdi. Dwi'r teip dwi'n meddwl ar ol tyfu fyny yn mynd i'r ffarm yn amal iawn sydd a phellter oddi wrth anifieiliad ac sa dwi'n gweld rwbath felna a gweld y boen yn llygid y tarw dwn im os allai deimlo'n gryf iawn yn ei erbyn. Na ni, galwch fi'n gont oer-galon ond felna ma hi. Dwi'n erbyn hela llwynog am hwyl felly ddylswn i'n logical fod yn erbyn ymladd teirw, a dwi'n siwr taswn i'n gweld un faswn i'n hollol yn ei erbyn OND dwi heb a does na'm llawar o hawl i farnu gen i yn hynny o beth.

Mae'r fiesta yn San Fermin yn rhywbeth ar wahan i'r teirw i ddathlu nawdd sant yr ardal beth bynnag felly YMLAEN A'R PARTI!

Comments

Popular posts from this blog