Swingin' Hepcats

Yn ystod parti haf gwaith nos wenar ble roedd lot o fiwsig Big Band 30'au yn cael ei chwarae, fe benderfynnodd Spanner a AJ a minnau ddechrau gwersi dawnsio Swing. Felly ar ol deffro bore Sadwrn dal yn gynhyrfus am y peth dwi di bod yn defnyddio amser prin gwaith i ffendio llefydd i ddysgu'r dawnsio bywiog yma yng Nghaerdydd.

Ma Jivemagic yn cynnal nosweithia bob yn hyn a hyn a wedyn drwy linc darganfod fod Jackie a Mark (pobol eitha sceri!!) yn rhoi gwersi bob wythnos ond yn Modern jive a LeRoc a Ceroc - be ffwcsyn medda chi di rheina?? Dawns foder nsy'n amalgam o Jitterbug a Jive. Ond ar ol cryn syrffio, ffendish i allan mai Swing a Lindy Hop ydy'r dawnsio dwisio neud, y stwff classy na sy ar ddiwedd y ffilm Swingers. Betrh bynnag i bwy bynnag sydd heb ddisgyn i gysgu erbyn hyn dyma'r gwahaniaeth rhwng Jive a Swing.

Ma na bobol o Bryste yn ei ddysgu, a ma'n nhw'n deud bo nhw'n dod i Gaerdydd ond dwn i ddim. Dwi di gadael neges ar ffon y boi beth bynnag....

Os da chi isio dysgu eich mwfs eich hunain ma'r wefan yma efo bas-data ohonynt efo animation i ddeutha chi lle i sbinio eich fodan dros eich ysgwydd!

Comments

Popular posts from this blog