Rial Kerdiff

Wedi dod ar draws wefan Peter Finch sydd wedi sgwennu llyfr am y 'Real Cardiff', ma na rannau o'r llyfr wedi eu argraffu ar y wefan yma sy'n dod a thipyn o hanes Caerdydd yn fyw i rheiny ohona ni sy di mudo i'r cwr aml-ddiwylliannol hwn o Gymru a sy angen dysgu chydig am lle da ni'n byw, a gwerthfawrogi y ddinas ma sy'n prysur droi yn ddinas blastig a choncrit gwyn heb owns o ysbryd iddi. Nai ddim rantio eto am ddiffyg gweledigaeth pensaerniol Caerdydd...OND ma'n warth.

Un peth sy'n codi nghalon i ydi'r sin fach sy'n cychwyn ar Clifton Street rwan efo amball i gaffi fel Journeys yn dod a cherddoriaeth i Sblotwyr. Ges i ebost yn gwaith fyd yn son am glwb newydd o'r enw the "Hawardian Club" sy di aghor dros y ffor' i gaffi Eidaleg-Gymraeg La Gondola. Tecno a house yn ol be ma'r flyer yn deud, fydd raid i fi fynd i;r nesa i weld be sy'n digwydd de.

Comments

Popular posts from this blog