Cynaladwyedd Canolfannau Galwadau?

Newyddion BBC: 300 o swyddi i Gaerdydd
(mewn canolfan alwadau newydd...)

Dwi'm yn meddwl, jeez, be di'r pwynt buddsoddi mewn rhagor o fusnes sy'n gadael ei staff efo dim sgiliau cyfnewidiol wedi i'r behemoth di-werth godi pac ymhen 2-3 mlynedd i fynd i'r lle nesaf lle mae pobol yn despret am waith ac yn fodlon gweithio am geinioga mewn swydd sy'n chwalu unrhyw hunan-werth sydd ganddyn nhw. Gwnewch rhywbeth defnyddiol efo'r arian, buddsoddwch mewn busnesau bach Cymreig.

"Rhoi gwasanaeth arbennig i'r cwsmeriaid ydi'r nod ac rydym yn credu fod pobol Caerdydd yn gyfathrebwyr heb eu hail."

Glywsoch chi'r fath bolycs yn eich dydd erioed?

Mwy fel:

"Gwneud cachlwyth o arian ydi'r nod ac rydym yn credu fod pobol Caerdydd yn fwy parod na phobol ardaloed eraill Prydain i dderbyn cyflog gwarthus o isel i'n galluogi ni i wneud hyn."

[diolch i flog What's wrong with Wales]

Comments

Popular posts from this blog