Problemau cyfieithu sdwff technegol llywodraethol?

Wrth gwrs ma pob siaradwr Cymraeg sy'n gweithio mewn swydd weinyddol yn gorfod bod a'r gallu i gyfieithu y dyddiau yma er fod cyfieithwyr yn cymryd blynyddoedd o hyfforddaint (fel arfer!)...felly drychwch ddim pellach na - TermCymru - cronfa derminoleg a'i chynhelir a'i cedwir gan adran gyfieithu y Cynulliad.

Comments

cridlyn said…
Awgrym y Bachgen o Bontllanfraith - gwiriwch statws y term cyn ei ddefnyddio, y gallwch ei wneud drwy glicio ar 'Mwy o fanylion'. Mae'r termau'n amrywio o statws 5 (rhywbeth wedodd rhywun yn y dafarn nithwr, falle, o'n i braidd yn pisd erbyn 'ny ac yn methu cofio'n iawn) i statws 1 (y grael sanctaidd - defnyddiwch y term hwn, neu bydd eich perfeddion yn cael eu harddangos ar bolyn cyn pob gem rygbi yn Stadiwm y Mileniwm cyn eu gweini fel aperitif i Orsedd Y Beirdd).

Cyfieithwyr yn hyfforddi am flynyddoedd? Shit, ydw i'n siarlatan?

Popular posts from this blog