Ffilm: Sinema
Fem bensp?nd, De (2003) / The Five Obstructions Cyf: Lars von Trier/Jorg Leth

Os da chi isio ffilm i'ch hysbrydoli chi i fynd allan a gneud ffilmiau, cerwch i weld hon. Mae hi'n dissectio a thynnu gwneud ffilmiau yn ddarnau a'i roi nol at ei gilydd o flaen eich llygaid. Mae'r ffilm yn dilyn sialens Trier i Leth i ailwneud ffilm fer a wnaeth Leth yn y chwedegau o'r enw 'The Perfect Human' 5 gwaith hefo sawl 'obstruction' yn ei ffordd. Mae'r gystadleuaeth o'r sadist (Trier) yn erbyn y masocist (Leth), yn un hynod ddiddorol, A mae'r ffilmiau sy'n cael eu creu o fewn y ffilm yn hynaws.

Mae gweld beth mae Trier yn ceisio ei dynnu o'i fentor yn dangos y parch sydd rhwng y ddau, a genius y ddau hefyd erbyn y diwedd. Ffilm ar ei orau, hudol.

Comments

Popular posts from this blog