Ffilm: Sinema
American Splendor (2003)

Ma na lot gormod o ffilmiau i'w gweld ar y foment, lot o indies y ndod trwodd. Ma hwn yn un dwi bod yn edrych mlaen i;w weld ers Cannes blwyddyn dwetha. A nath o ddim fy siomi.

Mae'r plot yn dilyn bywyd Harvey Pekar, clerc ffeilio, cymeriad cartwn, sgwennwr comics, a boi blin. Blin ond hawddgar. Mae'r ffilm wedi ei gosod mewn ffordd od iawn yn torri rhwng y ffilm ffuglen, cyfweliadau a Pekar go iawn, cyfweliadau a rhai o;r cymeriadau eraill yn y ffilm, animeiddio o'r comic amdan Pekar - sydd oll yn dod at ei gilydd i greu ffilm fach hudol iawn wnaeth fy nghyffwrdd a gneud i fi chwerthin llond y mol. Geek love! Aaaah.

Sbeshal commendation i James Urbaniak am ei bortread o Robert Crumb ac i Toby Radloff am fod yn Toby Radloff!

Iei! Ffilm gret i gychwyn y flwyddyn.

O.N. Mae gan Harvey Pekar Blog ar ei wefan (er fod o wedi sdopio sgwennu yn Hydref...)

Comments

Popular posts from this blog