Ffilm: DVD
Citizen Kane (1941) (Cyf (a sgwennwr, cynhyrchydd, prif actor (!!!)) : Orson Welles

Wel dwi di bod ffwrdd am y dolig fel sylwch chi does na ddim action wedi bod ar y blog ers hydoedd, ond, dwi nol rwan a gobeithio fydd pwy bynnag selogion sydd yna yn darllen y rwtsh ma'n parhau.

Dwi di bod isio gweld hon ers mor hir rwan ac o'r diwadd drwy'r hyfryd Movitrak dwi di chael hi, ag...raid i fi ddeud...mod i wedi ei mwynhau hi ond dim hanner cymaint ag y mae'r critics holl-wybodus ma'n feddwl. Dwi'n gwybod pam rywsut hefyd, mae hi'n ffilm mor dynn, mor grefftus, eich bod chi ddim yn sylwi ar ei gwychder tan ail wyliad. Mae pob shot wedi ei wneud yn berffaith o ran goleuo, mise en scene, actio. A ma'r plot yn neidio nol a mlaen mor rhwydd nes i chi beidio sylwi.

Mae'n anghredadwy fod Welles wedi llwyddo i gael cymaint o artistic license efo'r ffilm yma, ac yn hyd yn oed fwy anghredadwy ei fod yn ffilm gyntaf iddo! Sa fo byth yn digwydd heddiw.

Beth bynnag wedi deud hyn chefais i ddim r'un teimlad o edrych ar waith gwir feistr a dwi'n gael o wylio La Dolce Vita neu 8 1/2 gan Fellini. Dwi'n ysu i weld mwy gan hwn, er fod 8 1/2 yn lapsio mewn i rywbeth mwy self-indulgent, maeo'n ran o syniadaeth y ffilm rywsut. Meta-ffilm, ffilm o fewn ffilm o fewn ffilm. Gwych.

So, ella tro nesa wyliai CK gai edrych yn fanylach ar beth sy'n digwydd o amglych yn lle ar be sy am be sy'n digwydd. Siwr na dyna ma'r sinema'n ychwanegu ato hefyd...

Comments

Popular posts from this blog