Ffilm: Cymru

Gan fod Macsen yn cwynfanu am ddiffyg blogio Cymraeg ar maes-e [ ;) ] dyma flogio dolen hynod ddiddorol. Dyma fforwm newydd sbon danlli filmwales.net.

Fforwm ar gyfer gwneuthurwyr ffilm Cymreig i gyfnewid syniadau, hybu trafodaeth am y diwydiant ffilm Cymreig ac ehangach a dangos eu ffilmiau byr.

Swnio fel syniad gwych i fi, mae Shooting People braidd yn hen ffash efo'i drafodaeth ar ffurf neges e-bost ac mae'n hynod Lundain-sentrig. Ma cael fforwm fel hyn yn llawer gwell syniad.

Sa'n neis cael un yn Gymraeg yn bysa, er, faint o ddefnydd fasa ohono dwn im...

Comments

Popular posts from this blog