Spirited Away

Un o'r ffilms plant gorau i mi ei weld erioed. Heb os. Mae'r byd sydd o'i fewn mor hudol, swynol, dychmygus, direidus, drwg, dychrynllyd, digri. Mae'n berffaith i blant ond mae'n wych i oedolyn, mae o jest yn cario chi ar siwrne mewn i ben draw dychymyg Hayao Myiazaki a gneud i chi deimlo mor ddiniwed a phlentyn eto.

Mae gen i Princess Mononoke hefyd sydd am gael fiwing bach arall dydd Sul ond mae na un arall ganddo ar y ffordd wedi si-on ei fod ddim am wneud rhagor. Enw'r un nesaf fydd Howl's Moving Castle.

Quote am Spirited Away gan Myiazaki:
"For the people who used to be 10 years old,
and the people who are going to be 10 years old."

Mae'n crynhoi y profiad i fi. Fydd raid i fi brynu copi i LPL sy'n cael ei benblwydd yn dri wsnons nesa. Ella fydd ganddo chydig i fynd ond mi fydd o wrth ei fod dpan ddaw i'r oedran iawn.

Comments

Popular posts from this blog