Nwdls 'Di Laru
Ey up arkwright what be fookin' going on. yer ain't done a blog since fookin ages. Naddo dwi heb neud ffac ol ar hwn ers oes ond dwi wedi bod yn hofran o gwmpas ambell i le fel cachgi bwm rownd cenin pedr. Jest dipio mewn am bach o nectar bob yn hyn a hyn. Felly dwi'n dal methu bod yn arsd i sgwennu llawar felly dwi am restru lle dwi di bod os ma ryw un efo diddordab de...

Hwdwch!

Herculoids
Neu yn fwy adnabyddedig i ni Gymru dros 23 fel Sandooor!!!

Al Bym Newydd gan Paper Records - Best Of Iym Iym


Canolfan Y Dechnoleg Amgen Mechynlleth
am bod met i fi o Stoke isio mynd mewn i'r busnas ma. Yn ol bob son ma na broffit i'w wneud a pham lai na gneud o mewn ffordd sy'n lan. NesaAAA!

All Tomorrows Parties!
Dwi off na eto flwyddyn yma, methu gwitsiad i fod nol yn Camber Sands efo'r bois o-bach-y-barf.

Statesman or Skatesman?
Gwefan yn cofnodi pa mp's sydd wedi reidio skateboards, balwns, scooters ayyb Ffyni...am chydig.

Urban Dictionary
Shizzle mah nizzle. ffac nows be ma'n feddwl onmd ma Snoop yn deud o so ma'n cool as ffyc.

Felly rwbath tebyg i hynna...efo mwy o for ladron wedi eu lluchio mewn i'r mics cacan cachu mot yma.

Gafal heddiw. Ddim yn dda. Ha bach Mihangel heb ddod. Bw.

Mynd i'r Gog penwythnos ma. Gret. Falch o ddianc y ddinas. Ma'n ddiflas. Ddim mor dda a Pili Palas. Wiwar fawr yn bwyta panas. Canu'n cor efo Tom Gwanas, ribidireu....

Comments

Popular posts from this blog