Ffilm: Sgrin Fawr

Zulu (1964)
Cyf: Cy Endfield

Gwylio hon fel rhan o gynhadledd Cyfrwng, oedd, gyda llaw, yn hynod ddiddorol ac wedi codi sawl cnonyn yn fy mhen ond sdori arall di honno. Roedd yna ddangosiad o'r ffilm a thrafodaeth wedyn gyda Lady Elen Baker (gweddw Stanley Baker, y prif actor, yn enedigol o'r Rhondda), hanesyddion ffilm, hanesyddion y Zulu, a critics ffilm. Roedden nhw'n trafod y ffilm yn ei gyd-destun Cymreig a faint roedd Stanley Baker fel cynllunydd y project eisiau iddi roi lle i Gymry ar y sgrin fawr. Mae'r cymeriadau a'r portread erbyn hyn yn llawn stereoteips ond mae dal yn wych clywed cymeriad yn crybwyll ei dir ffrwythlon nol yn y Bala ym Meirionnydd.

Mae'r holl Imperialaeth a diffyg sylw i'r Zulu yn mynd yn ormod ond, roedd y critics yma'n ceisio dweud fod y ffilm yn wahanol i epigau colonial eraill yn y ffaith ei fod yn cwestiynu rhyfel a phwynt yr holl beth yn gyson drwy'r ffilm. Yn wir, mae na lawer o bendroni ac yn arbennig yn y diwedd mae'r sgwrs rhwng Baker a Caine yn crynhoi hyn oll yn llythrennol.

Wnesh i ei mwynhau ac roedd hi'n arbennig o ddifyr cael y panel yno wedyn, yr unig beth od oedd y ddau hard-cor ffans Zulu drws nesa i fi oedd yn canu Gwyr Harlech yn uchel yn y sinema ac yn adrodd y llinellau cyn iddyn nhw gael eu dweud...gobeithio na fydda i fel'na yn nangosiad arbennig Twin Town yn 2049. Ella ddim.

Comments

Popular posts from this blog