Ffilm: Teli

Newydd wylio golygfa gawod Psycho (1960) - mae o'n un o;r treats sinematig na da chi jest yn anghofio amdanyn nhw weithia. Mae Hitch mor calculating efo pob symudiad y camera, a mae'r fframio o Janet Leigh (reit ar yr ohcr chwith) pan mae hi wedi cael ei thrywanu ac yn llithro lawr ochr y wal yn sybleim. Dwi awydd prynu'r fffilm rwan hyn.

Gwylio mymryn o ffilm Bill Murray - Stripes hefyd. Eitha doniol mewn ffordd croes-rhwng-animal-house-a-police-academy. Ac roedd Warren Oates ynddo fo, dio ddim wedi bod mewn ffilmiau classy drwy ei yrfa ta, na Nic? :winc:

Comments

Popular posts from this blog