Llwythi o sdwff newydd!

Mae mynd trwy wefannau diweddar Miri Mawr wedi dod fyny a sawl man diddorol - wele...
Gwefan dairieithog Iesu Grist... - Y? Lluniau neis o'r Veedubs ar wyliau. edrych fel fod mwy o waith am ddod arno.
Llechwefan - Hanes Llechi Cymru - wyddoch y gelwid llechi yn ysglatus ar un adeg? Na? Na fi chwaith. Lluniau gret yn eu oriel, dangos faint mor nyts oedd gweithio yn y cloddfeydd.
Gwefan ffan i fand Y Cyrff
Islwytho caneuon Y Cyrff
Gwefan Y Barnwr - synfyfyriadau gan foi sy'n byw ger Brymbo.

Ddim ar Miri Mawr ond drwy Maes-e:

Recordiau Slacyr
- Gwefan neis gan label Texas Radio Band a Pep Le Pew

Comments

Popular posts from this blog