Dachi'n rhegi? Da chi'n rhegi? Ffycin jaco's!

Abersoch.co.uk Webcams

Sori am y floedd uchod, ond ma gweld gwefan am Abersoch yn gyfangwbl yn Saesneg yn gneud fy stumog i droi.

"Oh, look at those beautiful photos on the webcam, let's buy a house there. Mmhm, one of those chalets on the beach thery're only £50k. We'll just have to skip decorating this year. What do you say Frances?"

Ma na un gyfa am Ddolgellau sydd heb gyfieithaid, sa chi'n meddwl fasa rhywun o fewn y dre efo amser i wneud, neu well fyth tasa'r cyngor tre'n talu i rywun wneud. Ma'n swnio fel fod y boi'n ddigon agored i hyn ddigwydd chwara teg.

Hwn ydi be ma'r byd tu allan yn ei weld, os dydyn nhw ddim yn gweld Cymraeg ar y wefan pa ddisgwyl iddyn nhw feddwl fod angan dysgu Cymraeg os symudant yno?

Comments

Popular posts from this blog