Gwefiaduro (blogio)

"Blog all about it" - Erthygl yn y Grauniad

Diolch i Dwisio'r Llinell am hyn. Ma'n od, be sy'n genud i fi blogio. Ffyni edrach nol i'r rhai cynta, jest esgus i siarad rwtsh llwyr oedd o, ond mae o rwan wedi dod yn dri peth cyfun: cofnod o wefannau dwi'n ffeindio'n ddifyr (a dwi'n meddwl falla fasa pobol eraill yn), cofnod o'r ffilmiau dwi di wylio a pwtyn amdanyn nhw (sy'n helpu fi sortio;r ffilm allan yn fy mhen yn lle jest anghofio amdano, osma rywun arall yn darllan y bits yma, dyna fo), ac ychydig o ddarnau o marn i a petha felly yn gymysg ynddynt rywsut.

Yn wir, mae o'n rhywbeth eitha vain i neud, ond dydi o'n cymryd llawar o'n amsar i i neud o felly pam lai. Faswn i mond yn clytro fyny maes-e efo'n mhetha aniddorol! Waeth i fi gadw nhw'n rhywle ar wahan fel hyn ynte.

Mae yn biti nad oes na wefiaduron sydd yn llenyddol ac yn bleser i'w darllen os yn ddoniol neu ddifrifol. Mae'n ffordd mor hawdd o gyhoeddi, dwi'n synnu nadoes rhagor o bobol yn gneud ar gyfer y perwyl hynny.

Comments

Popular posts from this blog