Treth ar dai haf: Os mae Lloegr yn gneud pam na wnawn ni?

BBC NEWS | Politics | Second home council tax rise

Mae hwn yn rywbeth y dylem neidio arni fel cam positif hawdd tuag at gyfrannu at y gost leol. Dydyn nhw'n cyfrannu fawr ddim i siopau a busnesau lleol felly trethwch nhw. Efallai fod modd sicrhau fod y dreth yma ddim yn taro pobol o'r ardal sy'n prynu ail dy er mwyn rhentu, ddylsa hyn gael ei groesawu a chan fod y twristiaiad am ddod, ddim ots be fydd pobol yn gneud, waeth i bobol leol fod yn gneud yr arian ohonynt.

Efallai y dylai yno hefyd fod treth arbennig tuag at greu sysytemau i alluogi pobol sydd yn symud i fyw yma i ddysgu Cymraeg ag ymwneud a'r gymdethas leol yn lle bod ar wahan. Mae'n rhaid genud hi mor hawdd a phosib i bobol ddysgu Cymraeg a chael eu integreiddio mewn i'n cymdeithas neu cyn hir fydd ein cymdeithas ddim yn ddigon cryf i allu gwneud hynny.

Comments

Popular posts from this blog