Trin a thrafod yn ddwys...ahem

Seiat y Cynganeddwyr: Rhegi

Dyfyniad:
"Trwy gabledd a phlwyfoldeb mae Cymro yn rhegi, nid trwy ffugio geiriau am weithredoedd y corff. Does dim angen i laslanciau Cymru gwario chwaneg o oriau yn onanu tra'n fathu lol ar gyfer yr erthyl safle y cyfeirir ato, dim ond er mwyn cael y ffug bleser o gael dweud bod geiriau drwg ni cyn ddryced รข rhai y Sais - twt lol botas maip!"

*piso nglos a bron disgyn oddiar y stol* hahahahiiii!

"Erthyl safle"! Dwi'n lecio honna, ella fydd raid i fi roi honna ar dudalen flaen y Rhegiadur. Rhyw fath o destimonial.

Bytheiriwch fois a pheidiwch gadael i'r erthylwr "anhysbys" eich dargyfeirio! Nid llwyrymwrthodi ac osgoi trythyllwch yw ein Cymru ni. Rhegwch, diawliwch, a chymerwch bleser ynddo.

Os gwneud, gneud yn Gymraeg ynte!

Comments

Popular posts from this blog