Cofnod All Tomorrow's Parties 2004 - penwythnos 2

Pobol dwi isio cofio o ATP (cofnod i fi di hwn mwy na dim felly anwybyddwch os da chisio):

Valentina Italiana, Swedish Rob (oedd arfar drymio i Placebo), pouty Toni - ffrindia newydd nos Wenar aeth a fi ar gyfeiliorn gan beri i fi fod yn sal iawn dydd Sad, ond doedd dim ots - roedd hi'n gret o noson/fore
Paul Nectar o Hull a'i ffrind Elana - partneri dawnsio caws nos Sul a barhaodd tan reit yn y diwedd
teutonic Tomas o Norwy
Paul Flaherty y cerddor freeform jazz a phaentiwr drwy broffesiwn ei farf hynod o wyn a llaes a'i ymagwedd hawddgar,
Claire wenog ar grwydr
Colin y perchenog siop recordiau yn Southampton - obsesd efo siwmper Barfog am ryw reswm

Y bands nesh i weld dydd Gwener (curators: Stephen Malkmus and the Jinks):

Fiery Furnaces - ddim yn cofio rhain o gwbl ond dwi wedi ticio nhw am ryw reswm!
Nina Nastasia - llais hyfryd ond oedd y violin ag accordian yn redundant am ryw reswm
Enon - genod hyfryd Siapaneiadd yn creu swn neis yn cyfuno yr electronic a'r gitar
ESG - Oh yeah! Rhagor o genod - grwp o'r 80'au cynnar. Rial ffynci a digon o soul.
DJ's: Justin Spear (Stereolab); Belle and Sebastian

Y bands nesh i weld dydd Sadwrn (curatos: Sonic Youth):

00I00 - Mwy o Siapaneiad mental ond hefo ochor neis a mellow
Erase Errata - Band gwych, (genod eto) rhaid cael gafael ar eu cerddoriaeth
Wolf Eyes - Wal o swn, gwych, rhoi popeth mewn iddo a hynny'n dod trwodd, psycho boi ar y keys a'r gitarydd yn edrych fel ei fod wedi ei gysylltu'n feiolegol i'w gitar
Le Tigre - ma shwr taw electro pop fasach chi'n galw hwn - genod screamy shouty - oedd o'n atgoffa fi o'r band Shampoo o'r 90'au
Vincent Gallo - reit dda rhaid cyfadda, nwdlo ar y gitar gyda dau met ac adeiladu i crescendo reit neis
Sonic Youth - hollol wych, swn crwn cyflawn - dwi'n confyrted
Lightning Bolt - allai ddim ffurfio geiriau am eu gwychder...

Y bands nesh i weld dydd Sul (curators: Foundation):

Polmo Polpo / Hangedup - hangedup yn well na Polmo- violin efo distortion a digon o dryms diddorol
Jackie-O Motherfucker - diflas yn fy marn i
Arab Strap (mymryn) - cachu
Cat Power - llais hysci, caneuon syml, off ei phen ar drygs - nath hi gael y lle i droi'r "house lights" mlaen a mwydro rhwng bob can.
The Notwist - oce, ddim rili'n cofio'n iawn
Love with Arthur Lee (mymryn) - heb weld digon i farnu'n iawn
LCD Soundsystem - y gorau o'r diwrnod: mwy o crossover electronic/gitar efo lot o waeddi a pherfformio da (merch Siapaneiadd arall gyda'r rhain...mae yma batrwm)
Dizzee Rascal - mi roesi gyfla iddo, ond oedd o'n crap, dim gwahanol i'w recordiau, dim gafael ar y dorf, set fyr iawn, oedd o'n swnio fel ei fod yn gneud Top of the Pops
Har Mar Superstar - dim mynadd gyda'r pric, jest isio sgwrsio erbyn hyn...Barfog wedi gneud ei ben o reit mewn nos Sadwrn
DJ's: ATP a rhywun yn chwara Motown yn y Pyb

Isio anghofio: y teimlad bo fi ar fin marw yn y car ar y ffordd nol pnawn ma...wedi gorneud hi braidd.yeeeeurgh. Lwcus bo fi ddim yn gweithio fory felly tydi!

Comments

Popular posts from this blog