Ffilm: sinema

Kill Bill: Vol. 2 (2004)
Cyf: Quentin Tarantino

Mi gesh i'n siomi.

Roedd y ffeits yn reit dda yn arbennig darn Pai Mei, ond roedd y darnau yn y canol yn eitha tedious, yn arbennig y briodas yn y cychwyn a'r malu cachu rhwng the Bride a Bill.

Doedd yna jest ddim digon gwahanol yn weledol i allu cyfiawnhau ail ffilm. Fe fwynheuaids y cynta'n fawr ond roedd Uma fach yn fy niflasu.

Uchafbwyntiau: Michael Madsen, Pai Mei a'r Perchennog Hwrdy Mecsicanaidd. Dyna fo.

Oedd y miwsig ddim cystal a'r llall tro ma chwaith. QT Deffo wedi rhedeg allan o syniadau.

Comments

Popular posts from this blog