Ffilm: Rhestr Obaith (Wish List megis fel petai)

Sun Also Rises, The (1957)

Sylwi fod Bob Evans (gweler blog isod) wedi actio;r brif ran yn hon. Fasw ni wrth y modd yn ei gweld hi. Ddarllenais i'r llyfr tra ym Mhamplona yng ngwyl y teirw a'i mwynhau i ryw radda. I ryw radda am mod i'n ei chasau hefyd mewn ffordd od. Mae'r cymeriadau mor atgas o upper class ond eto mae'r ysgrifennu mor dda. Mi wyliais To Have And Have Not unwaith ac mae hi'n ffanfycintastic (sut allai hi ddim fod efo Howard Hawks ar y llyw a Bogey a Bacall yn smowldro).


Slim: "You know you don't have to act with me, Steve. You don't have to say anything, and you don't have to do anything. Not a thing. Oh, maybe just whistle. You know how to whistle, don't you, Steve? You just put your lips together and... blow."

Mae'r rhen Bacall yn y nghael i bob tro. Sdyning.

Comments

Popular posts from this blog