Ffilm: Sinema
Cavale (2002) / Trilogy: One - On The Run (Cyf: Lucas Belvaux)

Newydd sylwi mod i heb blogio'r cyntaf yn y drindod yma o ffilmiau. Roedd hon yn un dda iawn, ond roedd hi'n teimlo ei bod yn cloi braidd yn fler. Roedd actio Belvaux o safon dda iawn (tipyn o beth actio/cyfarwyddo/sgwennu), a roedd na wir deimlad o pace i'r ffilm.

Mae hi hefyd yn ymdrin a brwydrau gwrthryfelgar mewn ffordd ddiddorol iawn, gyda'r boi sydd newydd adael y carchar yn dal i ramantu a bofd yn idealist a'i gyfoedion sydd erbyn hyn wedi gadael y frwydr honno yn y gorffennol, ac eisiau meddwl am bethau eraill fel eu teulu. Mae hi'n bwynt teg, ydi chwyldro ddim ond yn dod gyda'r ifanc a'r rhai sydd heb ddim i'w colli. Pam felly nad yw ifanc a dispossessed Prydain yn ymladd dros rywbeth gwell. Addysg? Sut nad oes na deimlad o allu gwneud rhywbeth yn erbyn y wladwriaeth ar hyn o bryd. Sut mae datrys y teimlad yma o anobaith a galluogi pobol i feddwl y gallan nhw newid pethau os y mynnant?

Gwyliwch y ffilm da chi ond peidiwch disgwyl gormod ohonynt.

Comments

Popular posts from this blog