Ffilm: DVD
Dinner Rush (2000) Cyf: Bob Giraldi

Un o fy hoff ffilmiau o 2002 os nad y gorau. Noson mewn restaurant Eidalaidd poblogaidd yn ardal Tribeca, Efrog Newydd. Mae Danny Aiello yn chwarae rhan perchennog y bwyty sydd ar fin rhoi'r gorau i;r gem ond ma rhai o'i deulu mafioso'n ceisio muscle in ar ei fusnes. Stori dynn llawn cymeriadau diddorol, dyfn, cyfoethog, gwahanol...fel y bwyd sy'n cael ei weini yn y gegin. Omaigod, mae o'n gneud i chi lafoeri. Mae'r holl beth wedi ei osod yn y bwyty heb fawr o ddianc i'r byd tu allan ond yn lle teimlo'n golstroffobig, mae'n teimlo'n glyd a mor agos a hyn i'ch gilydd allwch chi ddim helpu dod i nabod pobol. Clasur gudd. Dwi'n argymell pawb i'w gwylio.

Comments

Popular posts from this blog