Ffilm: DVD
Todo sobre mi madre (1999) / All About My Mother (cyf: Pedro Almodóvar)
Ail waith i fi weld hon. Mae hi'n weledol wych, yn lliwiau primary cryf, ac efo ambell i shot lle ma rywun yn mynd - "sut nath o feddwl am hynna?". Mae'r melodrama yn mynd yn drech weithia efo pobol yn blybio ar amrantiad (a'r actio'n diodde oherwydd hyn braidd) ac, am hogan sy'n sgint ac yn gweithio'r stryd, mae Agrado'n byw mewn uffar o fflat neis. Ond na fo dyw realiti cymdeithasol ddim yn rhan o palette Almodovar nacdi.

Un peth wnaeth ddod fy nharo i oedd sut yr oedd Barcelona yn gymeriad ychwanegol yn y ffilm yma a'i bod hithau hefyd yn drag queen arall, efo'i phensaerniaeth gaudy (Gaudi?), lliwgar, weithiau'n vulgar ond wastad yn drawiadol. Dinas wedi gwisgo fyny, dynas wedi gwisgo fyny.

Oce, tangent bach rwan a croeso i rywun ddeud mod i'n siarad wanc, ond ydi'r Segrada Familia'n cynrychioli mam Manuela pan mae hi'n dychwelyd i Barcelona? Mam mewn drag hefyd? Lleuan mewn drag? Ma Catholigaeth yn grefydd eitha drag-aidd hefyd yn arbennig yn Sbaen efo'r holl siopau o tat rhad Cristionogol.

Ok, stop. Bullshit alert. Na fo.

Comments

Popular posts from this blog