Ffilm
11'09''01 - September 11 (2002)
Gwyliwch y ffilm yma. Plis. Unrhywun a gafodd ei effeithio gan y diwrnod hyn mewn hanes a'i sgil effeithiau.
Os da chi'n teimlo bod chi angen perspectif gwahanol ar y byd da chi'n byw ynddo a'i ymatebion i'r digwyddiadau o'i fewn yna rhentiwch hon. Ma'r ffilmiau 11 munud a 9 eiliad o hyd yn hit and miss (yn arbennig un Sean Penn, yr Americanwr sydd fwya heddychlon(? a mwya self-obsessed)).

Mae ffilmiau Samira Makhmalbaf, Ken Loach, Alejandro González Iñárritu, a Idrissa Ouedraogo a bron pob un arall heblaw am yr un Siapaneiadd(am chenj) yn effeithio arnoch mewn yn hynod. Sdim ots o ba safbwynt y dewch chi i'r ddadl am y sefyllfa newydd yma yn ein byd troedig ni wedi'r hunllef yma yn Efrog Newydd, bydd y ffilm yma'n cadarnhau ein bod ni'n byw mewn BYD! ac nid mewn gwlad neu deyrnas sy'n cael ei rheoli gan sateleit a newyddion 4 awr ar 20. Ma pethau'n digwydd rownd y ril. Mae pentrefi yn cysgu, mae dinasoedd yn byw, yn bell bel i ffwrdd o America. Mae'n annodd i ni gredu yn ein Cymru saff ac yn ol be da ni'n gweld ar ein newyddion bbc, sanctaidd, ond mae na fyd arall na allwn ni weld popeth amdano ac na allan nhw weld dim amdanon ni.

Sut mae cymhathu y diwylliannau hyn o fewn ein byd ni? Dwi ddim yn gwybod. Dwi ddim yn meddwl bod modd. Mae rhyfela a gwrthdaro yn rhan o ddynoliaeth ac yr oll allwn ni ei wneud yw lleihau hynny ohono syfdd i'w gael.

Dwi'n drist ond yn hapus ar ol gweld y ffilm yma, am fy mod i'n falch bod gwledydd yn gallu osgoi dinistr diwylliannol y gorllewin ffug ddemocrataidd. Dwn im. Dwi'n dod i'r pwynt lle dwi'n meddwl fod na ddim posib cael democratiaeth yn y wlad dwi'n byw ynddo. Fod na benderfyniadau'n cael eu gwneud sydd yn wrthun i'r ganran fwya o'r boblogaeth a fydd yn lladd meibion a genod Cymreig ac o Brydain. Mae ein rhan ni yn y "rhyfel" yma yn un nad ydw i'n ffeindio'n ddilys.

Dwi ddim yn wrth-American, fel mae llawer wedi fy nhgyhuddo. Dwi'n wrth-lywodraeth America. Sut all rywun fod yn ergbyn gwlad o bobol o hunaniaeth? Nid nhw sy'n lladd ac yn cyd-lynu'r ladd. Y pobol sydd wedi eu hethol(...?) ganddynt. Eu Cynrychiolwyr. A ffyc. Ydi Democratiaeth yn sylfaen cadarn i'n cymdeithas ni rhagor?

Mae'r byd ma'n gymleth fel ma'r ffilm dwi'n son amdano yn deud a dwi'n awgrymu fod pob un sy'n darllan hwn yn ei weld. Dyw pob un o'r 10 ffilm ddim yn wych, a dyw pob barn ddim yn mynd i fod at eich dant chi, ond mi fydd yn rhoi perspectif gwladol i chi am y tro ac yn ddi-CNN beth bynnag. Niu chafodd hon ei dangos yn yr UDA. Pam? Dyn nhw ofn y byd go iawn? Dyn nhw ofn I'W POBL weld y byd go iawn?

Mae hi'n werth darllen y sylwadau IMDb wedi gweld y ffilm hefyd. Mae'n nhw'n dangos yr ymateb i bob ffilm o bob congl y byd yn ffantastic.

Mae'r cyfweliad gyda Samira Makhmalbaf (cyfarwyddwr fy hoff ffilm o'r 10) hefyd yn enlightening

Comments

Popular posts from this blog