Ffilm
Koroshiya 1 / Ichi The Killer (2001) (Cyf: Takashi Miike)

Ffilm arall Siapaneaidd i'r rhestr ddiweddar. Yr un mwya ffycd yp hyd yn hyn!

Os da chi isio gwybod lle gafodd tarantino ei ysbrydoli i neud sioe waed yn Kill bill, wel fan hyn mae ei ffeindio. Mae na doreth o waed ynddo, dramatic, doniol, jest gwirion ar adega. Mae'r ddau brif gymeriad y petha mwya anghygoel i mi eu gweld mewn ffilm ers y Royal Tenenbaums.

Y prif gymeriad: nerd ifanc nerfus sydd wedi cael ei gyflyru i feddwl fod raid iddo ladd bwlis y byd i gyd ac felly's gwisgo fyny fel swper hiro a'u lladd mewn ffyrdd dreisgar ddyfeisgar tra'n beichio crio/chwerthin yr holl ffordd drwodd.

Ei wrthwynebydd: masochist tal slendar efo gwallt blond a chelsea smile lled ei ben sydd wedi ei uno a dwy piercing mawr. Pan gawn ein cyflwyno iddo y tro cynta mae'n smocio ffag a chwythu'r mwg allan o'i fochau! Brilliant!

Yr unig ffilm ers oes i neud i fi deimlo chydig yn sal ar ol ei wylio(...wel, heblaw am Anger Managment, ASGOB!), sydd yn deud wbath. Ma di cael ymadwaith gen i a wedi gneud i fi chwerthin, heb wneud llawar mwy ond, na fo, o'n i ddim yn disgwyl trafodaeth ol-fodernaidd o sut mae'r gollwng gwaed yn ollwng stem yn niwylliant ieuinectid repressed Siapan. Gore-fest sili. Hwre!....bleeurgh.

Comments

Popular posts from this blog