Ffilm: DVD
Brazil (1985) (Cyf: Terry Gilliam)

Genius. Llwyr.
Rhaid deud fy mod i'n sycar am ffilmiau sy'n gryf iawn yn weledol a delweddol. Dyna pam dwi'n lecio sci-fi gymaint siwr, a ddim mor hoff o astudiaethau dwys araf o berthynas pobol. Sweeping statement braidd...hmm.

Wel ma Brazil yn gampwaith. Hon ydi'r ail waith i mi ei gweld ag oedd y stori yn hynod fitting neithiwr tra'r o'n i'n dreadio mynd nol i fy swydd weinyddol. (O'n i'n oce wedi mynd nol mewn, dwi di cael wsnos off!). Mae'r cymeriadau yn wallgo, a'r ddau Bob yn sgleinio (Bob Hoskins a Bob de Niro) fel y peirianyddion ducts swydddogol(BH) a guerrilla(BDN).

Un cwyn sgen i ella, ydi fod y sequence chase a breuddwyd ar y diwedd yn mynd ychydig yn hir. Mae'r holl ddelweddau yn atogffa rywun o weithgarwech ol-ail ryfel byd Prydeinig am ryw reswm. Mae pawb sy'n weinyddydd neu wedi bod yn un yn gallu uniaethu a breuddwydion Sam Lowry i fflio ffwr' a dianc o'r hualau papur, ond fel mae'r ffilm yn deud, all neb ddianc go iawn...MWAHAHA.

Hoff lein:

SAM
Yes, I know, fantastic, marvellous,
wonderful - remember me to Alison -
and the - er - twins.

JACK
Triplets.

SAM
Really? - God, how time flies!

Edrych mlaen i weld y Brothers Grimm flwyddyn nesa a Lost In La Mancha ar DVD...

Gwefan Ffans Gilliam

Comments

Popular posts from this blog