Jacob's Ladder a Iesu Hollywood

**Spoiler**
Nes i wylio un o fy hoff ffilms neithiwr ar y Sci-fi channel - Jacob's Ladder. Ffilm am ddyn post sy'n meddwl ei fod yn colli ei feddwl wedi iddo ddychwelyd o ryfel yn Fietnam. Mae'n credu fod yna demons yn ei ddilyn ac mae'n darganfod fod y llywodraeth wedi gneud profion cyffuriau hallucinogenic arno. Ond dyw hi ddim am y cyffuriau o gwbl er fod diwedd y ffilm yn dweud fod yr Amerig wedi gwneud profion ar GI's. Mae'n cychwyn gyda Jake(Tim Robbins) yn y rgyfel yn cael ei gludo i ffwrdd o faes y rhyfel wedi ei anafu. Mae hwn yn real time ond mae'r ffilm wedyn yn mynd mewn i feddyliau Jake, yn ceisio ffeindio ei ffordd i'w nefoedd ond yn cael ei ddangos i'w i uffern ar y ffordd. Yn yr ochr nefoedd Sarah ei wraig iawn sydd yno, ac ar yr ochr uffern mae'r temptress, Jezebel. Yng nghanol hyn oll mae Jake yn dod ati yn yr hofrennydd ac wedyn yn cael flashbacks i'r jyngl, lle cafodd ei drywannu gan un o'i gyd-filwyr. Mae ganddo dri angel yn ceisio dangos y ffordd iddo i'r nefoedd drwy hyn, ei fab marw(Gabriel), ei chiropractor (Louier), a dyn tacsi. Mae na ddwy olygfa ynddi sydd yn ymysg y rhai mwyaf dychrynllyd i fi eu gweld yn y sinema: Pan mae Jexzzie yn troi rownd ato a mynd "Anybody home!" efo llygaid du i gyd a phan mae Jake yn cael ei arwain drwy'r ysbyty ar ol neidio allan o'r tacsi a mae'n gweld babis a bob math o stwff uwch ei ben.

Tra'n chwilio am sylwadau arni ddes i ar draws gwefan ddiddorol o'er enw Hollywood Jesus sy'n edrych ar ffilmiau o safbwynt crefyddol/ysbrydol. Eitha diddorol ys dwedyd y gwir yn blwmp.

Comments

Popular posts from this blog