Dolgellau

Nol adra dros y penwythnos a gormod o ben mawr ar ol nos wenar i allu codi a gwynebu Cadar Idris a'i lethrau serth. Basdad. Yn lle roedd hi'n amser mynd i fecws gora'r byd, Creutirion neu Popty'r Dref i gael Honey Buns (sydd ddim yn cynnwys mel ond sydd yn unigryw i Ifan a Magi, dwi'n gwybod o'n i'n arfar gneud nhw am 6 y bora!) a deunydd ffrai yp o'r bwtsiar. Mmmm!

O mai GOD newydd ffeindio y peth mwy doniol, search bach ar Honey Buns a ddes i ar draws y seit yma - marwnad spooky i bob anifail anwes oedd a ganddi!

Diolch byt h mai dim y math yma o Honey Buns ma Ifan a Magi'n gwerthu i hen ddynion llwglyd Dolgellau!

Oedd y ffacin script report yn hunllef. Dwi'n gwybod pam dwi'm yn gwylio romantic comedies heb son am eu darllan nhw. Dyna pam ma na cyn lleied o 'wegofio' wedi bod yn mynd mlaen ma, oedd y basdad yn cymryd pob awr sbar.

Comments

Popular posts from this blog