Gwylio Manon Des Sources neithiwr ar ol gwario 4 awr yn sgwennu adroddiad sgript i gwrs dwi'n gneud. Fwynheais i neud yr adroddiad ond pwy a wyr sut siap fydd arni o dan archwiliaeth gritigol arbennigwr!Lllllllwwnc!(Gulp haha...). Beth bynnag roedd y ffilm yn drist iawn, trasiedi a deud y gwir. Perffaith yn y ffaith ei fod yn gwneud i chi ymdeimlo a'r cymeriadau cas ynddo bron mor gymaint a'r rhai da. Stori am ddwr a sut mae dau deulu yn ffraeo ac yn lladd am y cyflenwad dwr orau i'w ffarm yn Provence. Llawn barusrwydd(hy?), hunaoldeb, dial a 'difaru. Hwn yn deud y cyfan am y diwedd "The final ten minutes of this film are heartbreaking. A very bad man becomes a human in front of your eyes." -rhywun o'r we, ddoe falla.

Dial Dwr Manon Gafr - allwch chi neud adolygiad 4 gair??

Lloegr vs Twrci ar y teli, 0-0 hannar amsar. Dowch laen Twrcwns! Da chi di dal fyny'n dda yn erbyn y Mericans, newch r'un peth i'r Saeson!

Comments

Popular posts from this blog