Wiwars Disgo a Bwwwzzzz

Dwi wastad wedi pendroni am be ma'r wiwars ym Mharc Bute yn gneud ar ol i'r giatau gau...D.I.S.C.O!

Sgwn i os ma'r Criw Melltan Gwyn yn cael mynd i'r disgo hefyd? Ella bo nhw'n fwy o rocyrs...

Oedd 'na Griw Melltan Gwyn yn arfar cael confensiwn bob haf wrth ymyl y neuaddau lle r'on i'n arfar byw, tua ugain yn dod o bob cwr o'r ddinas i drin a thrafod prisiau seidar a chyflwr gwael bocsys cardfwrdd y dyddiau hyn. Yn sesiwn Haf 2002 etholwyd Alf Gwallt Cynffon Afanc yn lywydd y trwynau cochion am y flwyddyn. Ond mae ei flwyddyn yn dod i ben cyn hir a chyda Ffred Ffestar yn dod yn boblogaidd iawn yn ddiweddar gyda'r ffacsiwn dylanwadol Parc Biwt, mi fydd hi'n agos iawn rhwng y ddau...wotch ddus spes am y build-up etholiadaol.

Hefyd y flwyddyn hon: Gwaharddwyd y wiwerod rhag cyfri pleidleisau y flwyddyn hon ar ol y ffiasco llwgrwobrwyo cnau for cwestiyns gan Alf Afanc Snr yn etholiad 2002.

Comments

Popular posts from this blog