Cerddoriaeth

Newydd ddychwelyd o ATP, shattered ar ol tri noson o aros fyny tan 7yb yn gwrando ar gerddoriaeth mental a yfad yn y pyb (oedd hefyd yn gorad tan 6yb!). Hapus serch hynny, wedi darganfod llawer o fandiau newydd a chlywed llawer o rai r'o'n i'n hoffi o'r blaen. Y darganfyddiad gorau oedd Venetian Snares. MC sexy a sgrechgar i fynd gyda'r miwsig hard-cor (steil newydd Cor Godre'r Aran - canu 180 bpm!) oedd yn groes o jungle a stwff diwydiannol. Lot o distortion, es i'n nyts! Coesa a breichia yn brifo rwan a wedi colli llais yn gwaeddi ar Public Enemy (nathon nhw set 2awr a hannar!!) ac Aphex Twin. Mae'r tocynna ar werth ar gyfer y flwyddyn nesa'n barod, a 400 wedi gwerthu, dwi'n prynu un cyflog nesa gai.

Comments

Popular posts from this blog