Rhegiadau a Straeon Ysgol

"Weji", "taxi red", "rucks", "pidgeon toss", "pile-ons"...ac un dywediad sy'n perthyn yn arbennig i Ddolgellau "Pen, Penelin, Penglin" - ffordd Dai Daps o ddysgu plant i chwara criced, pwy a wyr os oedd o'n gweithio ond mae pob hogyn dros 20 yn Nolgellau yn ei gofio.

Aaaa, iaith y maes chwarae. Mae gan y lle yma bopeth o'r iaith i straeon am y boi anffodus na oedd yn eich dosbarth oedd pawb wastad yn tynnu'r mic ohono, a'r athrawon oedda chi'n arfar eu gyrru i ddagrau neu nervous breakdown... sori Mr Newing am daflu mes atoch chi pan oedd eich cefn wedi ei droi a rwbio allan y traethawd sgwennoch chi ar y bwrdd du revolving.

Syniad stiwpid pwy oedd o i gael athro hanes uniaith Saesneg mewn ysgol Gymraeg? Gofyn am drwbwl 'swn i'n deud.

Nath na foi yfad yr hylif allan o jar neidar wedi piclo am fet yn ein ysgol ni, fu raid i'r ffwl fynd i 'sbyty a chael detension!

Comments

Popular posts from this blog