Newyddion/Rhyfel

Wel woopee ffacin doo, ma Greg Dyke wedi sylweddoli fod newyddion America ddim yn objectif, a ma Yahoo yn gneud ffys ohono. Tasa gan rywun hannar bren fasan nhw'n gallu gweld trwy y clwydda ma nhw'n balu mor gyflym a tyllwyr beddi Baghdad. Oes na rywun rili'n coelio unrhyw beth o'r adroddiadau 'front line' oedd y BBC yn eu darlledu. Oce, mi oeddan nhw'n gam ymlaen o'r ffars oedd press confs Schwarzkopf yn y rhyfel Irac (gweler Baudrillard: 'The Gulf War Did Not Happen')cynta ond eto da chi'n meddwl bo nhw am ddeud y gwir wrth y proles? Dwi'm yn ffacin meddwl. Ceisiwch weithio allan beth sy'n mynd mlaen yn y byd yma a gewch chi'ch clymu fyny mewn gwe o hanner-celwydda a smokescreen y cyfryngau. All teledu gyfleu realiti? Na. Mae o'n gyfrwng, ac mae'r neges yn ei hanfod yn cael ei newid yn ystod trosglwyddiaeth y cyfrwng hwnnw. Faint o ddwylo all y 'neges' ddod trwodd? Penderfyniad y dyn camera i ffilmio rhywbeth arbennig, penrfyniad y riportar i ddeud geiriau o ryw fath, penderfyniad y golygydd i roi y lluniau yn rhyw drefn, penderfyniad y cynhyrchydd pa safle a gaiff ar y rhaglen, pa sianel mae hi arni, pa bobol all wylio'r sianel honno ayyb Pa wirionedd a neges wir all ddod drwy'r fath broses gabalyddedig. Dwn im, Dwi ddim yn argyhoeddedig o be ma Newsnight, yr uwch-awdurdod ar newyddiaduriaeth objectif a llo aur y BBC, yn deud wrtha i. D'yn nhw'n deud dim byd. Da ni gyd yn byw mewn byd lle da ni'n fyddar ac yn ddall i unrhybeth y tu allan i'n golwg perifferal. waeth i ni fynd nol i'r Oes Ddur ddim.

Ew dwi mewn hwylia da heno! Hahahahahahahahahahahaha (gwen ffals)

Comments

Popular posts from this blog