Gwefan

Gallwn i dreulio oriau'n darllen trwy'r chwedlau trefol (urban myths) yma. Mae'r arth anferth yn werth ei gweld, y carw ar ben y polyn teligraff yn anghygoel a'r boi nath blicio ei wynab ffwrdd efo drych ar ol cymryd PCP yn arbennig o afiach, peidiwch a sbio os da chi'm yn licio gwaed. Hehehehe!

Mae hefyd yn deud wrthych os ma nhw'n wir, heb eu profi, neu ffug. Sgwn i os ddylswn i ychwanegu rhai Cymreig?

Stori boi o Ddolgellau oedd newydd gychwyn gwaith labro efo cwmni adeiladu. Nath y fforman ofyn iddo
"Dos i'r siop i nol hannar owns o Golden Virginia i mi, ag os does na ddim yna, tyd a rwbath arall"...
Ddoth yr hogyn nol ymhen hannar awr efo porc pei...

Ma hon yn gret ond dwn im faint dwi'n ei chredu...
Aeth tua pump o fois Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg allan o goleg Aber yn y 70au a mynd yn y car i dorri mewn i'r mast teledu Blaenplwyfjest tu allan i Aber ar y ffordd lawr i Aberaeron. Oeddan nhw yn trio torri'r clo ar y drws ond yn cael bach o draffarth pan welson nhw ola car yn dod fyny'r ffordd tuag atyn nhw. Wrth gwrs roedd pawb yn meddwl taw'r heddlu oedd yno a chan mai ond un ffordd oedd at y mast, bu raid i bawb ddianc nerth eu traed drwy'r caea a dros y gwrycha.

Fe gyrhaeddodd 4 yn ol un wrth un ond roedd un dal ar goll y bore canlynol. Ond, tra'n eistedd o gwmpas yn y stafell gyffredin, mi ddoth eu ffrind i mewn yn hollol socian. Be ddigwyddodd i ti medda pawb. Wrth gwrs oedd o di rhedeg ffordd wahanol i bawb arall a wedi colli ei synnwyr cyfeiriad, fe neidiodd dros wrych a disgyn lawr y clogwyn syth mewn i'r mor a bu iddo orfod nofio'r holl ffordd nol i Aber...blydi gret!

Comments

Popular posts from this blog