Nol at y b-mwfis, sori, dyma'r obsesiwn newydd...

Wedi bod yn meddwl am y rhaglen Mystery Science Theatre 3000 o'n i'n arfar gwylio pan yn iau. Roedd na ddyn a dau byped (robot a rwbath arall) mewn sinema yn gwylio ffilmiau shit a gneud sylwadau sarky a voiceovers eu hunain. Dyma restr o'r holl ffilmiau gwael y gwylion nhw drwy'r 6 cyfres ddarlledwyd rhwng 90-96.

Oeddan nhw'n hileriys os dwi'n cofio'n iawn. Ma angan i rywun neud r'un peth efo hen raglenni Cymraeg. Mynd i archifau S4C a HTV a chael criw Y Rhaglen Wirion 'Na i neud y voiceovers...

Comments

Popular posts from this blog