Ffilm: B-Fids

Overkill (1986)
Cyf: Ulli Lommel

Ar ol gweld Edege Of Hell, y z-movie horror gorau erioed, bum ar helfa drysor heddiw o amgylch siopau ail-law ac elusennol i chwilio am y fideos gwaetha posib oedd ar gael.

Roedd y penderfyniadau ar ba rai i'w pwrcasu yn cael eu seilio yn bennaf ar faint mor wael oedd y darluniau ar y clawr, ar y teitl ac ar ei bris (dim llai na thair punt).

Roedd hon yn un o'r cyntaf a brynasom: yn bell o fod yn glasur o gomedi hap a damweiniol, roedd hi'n dragio. Roedd y teimlad gwrth-Siapaneaidd yn anghrediniol ynddo a'r deialog yn wych o wael. Pob cliche yn y llyfr yn cynnwys y bent politician, y ballbreaker bos yn y copshop. Dim patsh ar Edge of Hell ond gwerth gweld gwyneb y boi yn y siop fideo yn chwerthin ar ein dewis doeth.

Hir oes i'r B-mwfi!

Comments

Popular posts from this blog