Disney yn rhoi taw ar Moore

Er cymaint mae Michael Moore yn gallu codi gwrychyn rhwyun gyda'i ffyrdd gegog mae'n warth fod cwmni Disney wedi blocio dosbarthiad ei ffilm newydd Fahrenheit 9/11 sy'n ymosod ar gysylltiadau Bush a'r teuluoed pwerus Arabaidd sy'n rheoli'r olew - Y Bush/Cheney Oil Junta fel y galwodd Vidal nhw.

Mae yna sylwadau fod Moore yn gwybod hyn ers tipyn a'i fod wedi neidio ar hyn rwan er mwyn cael gymaint o gyhoeddusrwydd a phosib cyn dangosiad y fffilm yng nghystadleuaeth Palme D'Or Cannes - wel, os ti'n coelio'n gryf yn rhywbeth a dydi o ddim am gael ei weld adref yna ti am wneud yn dam siwr ei fod yn cael ei weld ym marchnad ffilm fwya'r byd.

Comments

Popular posts from this blog