Ffilm: Spielberg yn gneud Tintin

Oce, faswn i wedi gallu handlo Steven Spielberg yn gneud Tintin, ond mae'r ffaith fod y cwdyn clai cawsiog ceiniog a dima 'na Tom Hanks (o wefan Ffrangeg Objectif Tintin gyda llaw)wedi ei castio i chwarae rhan ein anturiaethwr o fri yn gneud i fi deimlo'n dipresd. Sut galla fo?

Mae Hanks yn amlwg yn rhy hen, rhy Americanaidd, a rhy, wel sut roddai o... SHIT!! Trafesti i gofiant Herge os fu na un erioed, be ddoth dros ei ystad yn gadale i'r ffasiwn beth ddigwydd? A nhwytha wedi bod mor ofalus efo'r cartwnau, yn edrych yn fanwl ar bob agwedd i sicrhau ei fod yn aros yn driw i gelfyddyd Herge. Sna'm siawns o hynna rwan nagoes. Pa, dwi'n mynd i bwdu yn gongol am ennyd.

Comments

Popular posts from this blog