Z-mwfis: Ddy Syrch Continiws

Newydd wylio Star Crystal (Lance Lindsay, 1986). A roedd o'n braf cael mynd nol i territory Rock N roll Nightmare. Ffilm shit efo digon o laffs, actio sdiff, leins gwallgo, setiau cardbord a pypedau crap i barhau yr 90 munud.

Scifi horror yn (trio) dilyn sdori Alien ydi o, sy'n diweddu fyny efo'r Alien yn troi'n ffrindia efo'r criw a chael troedigaeth i Gristionogaeth! Faswn i ddim wedi gallu dyfalu honna! Mae'r gan ar y diwedd hefyd yn werth yr aros. Os da chi'n gwled hi mewn bwt car, prynwch hi yn syth. Dyw gemau fel hon ddim yn dod rownd yn amal.

Adolygiad o Bad Movie Planet

Gwefan BadMovies.net, dim byd ar Star Crystal ond mae o fath blog b-mwfis.

Mwy o sdwff B-mwfis ar Bad Movie Planet

Comments

Popular posts from this blog