Hanes Cymru

Y Drych Digidol - Trysorau - Hunangofiant Smyglwr

Tra'n ychwnaegu sdwff i'r Rhegiadur nesh i chwilio am y gair 'trythyllwch' (sexual indulgence) ar y we a ddes i ar draws yr em yma, sef hanes y dihiryn a sgamp (a llofrudd...), William Owen oedd ei hun yn 'ymdrabaeddu mewn trythyllwch'!

Mae ei hanes yn ddifyr iawn ac wedi ei gofnodi yn y Llyfrgell Gendlaethol yn ei hunangofiant. Am fywyd: ar y mor, yn ymladd Sbaenwyr a Lladron eraill a merch ym mhob porthladd. Yarrr!

Sdwff da iawn ar y wefan drych digidol ma: mapiau cynnar Lewis Morris a William Morris o Aber y Fawddach a bas data chwiliadwy o luniau Geoff Charles o'r 20fed ganrif.

Dyma rai lluniau o Ddolgellau:


Agoriad Neuadd Sir Feirionnydd, Dolgellau, Ion 30, 1953.


Hen gegin ffarm Dewisbren, Rhydymain 1952.


Arwerthiant Da Duon, Mart Dolgellau, Mawrth 26, 1954.
(Fan hyn mae nhad yn arwerthu!)

Hefyd wedi darganfod hwn ar archif bandiau link2wales.co.uk:
"Siencyn Trempyn - band from Aberystwyth (1985) - won a competition on Welsh TV programme Bilidowca (sic) & were featured on the 7" compilation EP Popdri. A session on Radio Cymru followed & a 7" single on their own Trythyllwch label. Bobs Pritchard left to become Byd Afiach leaving Emo (trumpet)& the other 2 members to become Arfer Anfad. Emo (Emyr Williams) now runs Ankst music)"

...Siencyn yw fy enw teulu. A ma gyd wedi dod full circle!

Comments

Popular posts from this blog